Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 15 Mai 2023
Amser:
13.30 -
15.32
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13335
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
Helen Rowley, Llywodraeth Cymru Olwen Spiller, Llywodraeth Cymru Rhian Williams, Llywodraeth Cymru Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog gyda nifer o gwestiynau ychwanegol.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
3.1 SL(6)352 - Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
3.2 SL(6)353 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
4 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
4.1 Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Drafnidiaeth
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog.
4.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch Rheoliadau Iechyd Planhigion ac Amodau Ffytoiechydol (Gwyfyn Ymdeithiwr y Derw a Phlâu Planhigion) (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
5.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
5.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip.
5.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
5.5 Datganiadau mewn perthynas â Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor y datganiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Busnes a Masnach.
5.6 Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Fframwaith Windsor y DU-UE
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Prif Weinidog.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
Derbyniwyd y cynnig.
7 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru): Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a chytunwyd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig.
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ragor o wybodaeth ac i ystyried ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
9 Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) - y datblygiadau diweddaraf
Trafododd y Pwyllgor ddatblygiadau diweddar mewn perthynas â Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) a chytunodd i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i ofyn am ragor o wybodaeth.